Mae Ysgol Raddedigion Prifysgol Glyndŵr yn dod â myfyrwyr uwchraddedig y Brifysgol ynghyd â staff y Brifysgol sy'n eu cefnogi mewn cymuned ryngddisgyblaethol.
Mae’r Ysgol i Raddedigion yn gweinyddu, cefnogi a chydlynu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar gyfer myfyrwyr a’u timau goruchwyliol.
Yn ei holl weithgareddau, mae’r Ysgol i Raddedigion yn amcanu i ddarparu amgylchedd cefnogol, gan feithrin ymchwil ac ysgolheictod, ac annog rhyngweithio trwy’r disgyblaethau a rhwng graddedigion o wahanol gefndiroedd a chenhedloedd.
Cyfle i ddal i fyny â’r newyddion diweddaraf o’r Ysgol i Raddedigion gyda rhifyn Mehefin o gylchlythyr Yr Ymchwilydd
Mae Cronfa Ymchwil Ar-Lein Prifysgol Glyndŵr yn darparu mynediad am ddim i allbynnau ymchwil staff academaidd ac ymchwil y Brifysgol. Ar hyn o bryd, mae’r casgliad yn cynnwys erthyglau cyhoeddiedig a adolygir gan gyfoedion, penodau llyfrau, cyflwyniadau cynhadledd, ac mae’n ehangu. Mae’r Brifysgol yn annog unigolion a chyrff allanol i wneud defnydd o’i chanlyniadau ymchwil ac i edrych ar gyfleoedd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.