|
Rhydych chi yma:
Hafan > Opsiynau astudio hyblyg
|
||
|
|
Astudio hyblygCyrsiau byr a rhan-amserEich dyfodol chi. Eich ffordd chi.Rydym yn deall fod hyblygrwydd yn bwysig i chi, eich gweithlu a’ch cydweithwyr, a bod gan bawb wahanol uchelgeisiau, gwahanol ffyrdd o fyw eu bywydau a gwneud lle i’r holl bethau y maent eisiau eu gwneud. O theatr a pherfformio i fusnes, o gelf a dylunio i waith ieuenctid a chymuned – mae ein graddau israddedig i gyd wedi eu rhestru yma. Astudio rhan-amserMae yna lawer o resymau dros fod eisiau astudio yn rhan-amser, boed hynny oherwydd fod arnoch eisiau opsiwn astudio a fydd yn cyd-fynd â swydd neu anghenion teulu neu os ydych yn dymuno astudio mewn rhyw faes yn eich amser hamdden er eich diddanwch eich hun. Beth bynnag fo eich rhesymau, mae gennym nifer o gyrsiau rhan-amser ar gael mewn ystod o lefelau, o gyrsiau proffesiynol hyd at astudiaeth uwchraddedig. Os nad ydych wedi astudio unrhyw beth ers sbel, beth am gael golwg ar ein hadran Mynd yn Ôl i Astudio ble gallwch ddod o hyd i lawer o gyngor i’ch helpu chi gychwyn arni. Cyrsiau byrMae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig llawer o’r modiwlau sy’n gwneud gradd lawn fel cyrsiau astudio unigol. Mae’r rhain yn ffordd dda o ddatblygu gwybodaeth mewn pwnc neu faes penodol a gallant hefyd fod yn ffordd wych o ddarganfod sut beth yw astudio mewn prifysgol. Os nad ydych wedi astudio unrhyw beth ers sbel, beth am gael golwg ar ein hadran Mynd yn Ôl i Astudio ble gallwch ddod o hyd i lawer o gyngor i’ch helpu chi gychwyn arni. Cyrsiau ar gyfer cyrffMae gennym nifer o ddatrysiadau addysg uwch wedi’u cynllunio i ddatrys anghenion hyfforddi seiliedig-ar-waith. Mae ein gwaith tîm hyfforddi a datblygu yn gweithio gyda chyrff yn yr ardal i gynnig cymorth wrth asesu a chyflawni anghenion datblygiad proffesiynol parhaus cyflogedigion. Mae’r cyrsiau yn amrywio o astudio modiwlau unigol fel cyrsiau byr hyd at raddau a chyrsiau proffesiynol a astudir yn rhan-amser. Mae gan hyfforddiant fanteision enfawr i gyflogwyr a chyflogedigion fel ei gilydd. Mae Arloesiadau Glyndŵr hefyd yn gallu ffynonellu a chyflenwi cyrsiau hyfforddi pwrpasol ar gyfer grwpiau o gyflogedigion sydd â’r un gofynion hyfforddi o fewn corff. Mae’r rhain yn gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig y gellir eu cynllunio’n unigol er mwyn cwrdd ag anghenion hyfforddi. Gellir eu cyflenwi o fewn y corff sy’n cyflogi, yn y Brifysgol neu yng Nghanolfan Rheolaeth Glyndŵr y Brifysgol yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Manteision hyfforddiI gyflogedigion
I gyflogwyr
Opsiynau eraillByth wedi dod o hyd i’r hyn yr oeddech yn chwilio amdano? Os nad ydych wedi bod ym myd addysg ers tro, a ydych wedi ystyried cwrs Mynediad i Addysg Uwch a fydd yn eich paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol? Wedi’u cynnig mewn ystod o feysydd pwnc, gellir astudio’r cyrsiau yn llawn amser dros gyfnod o flwyddyn neu’n rhan-amser dros gyfnod o ddwy flynedd, ac mae eu cwblhau’n llwyddiannus yn eich galluogi i gael y mynediad angenrheidiol i addysg uwch. Rhedir y rhain yn lleol mewn llawer o golegau addysg bellach, gan gynnwys Coleg Iâl a Choleg Glannau Dyfrdwy. Mae’n bosib y bydd gan golegau addysg bellach yn eich ardal chi hefyd opsiynau rhan-amser a allai fod o ddiddordeb i chi. |
|